This page contains affiliate links. As Amazon Associates we earn from qualifying purchases.
Language:
Form:
Genre:
Published:
Edition:
Collection:
Tags:
FREE Audible 30 days

Ar yr afon yn y nos.

CLADDEDIGAETH MORGAN HEN.

Hen frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen, Fe ‘i carwyd yng nghalon y bobloedd;
Esgynnodd i’w orsedd yn ddengmlwydd oed, A chadwodd hi gant o flynyddoedd.
Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch Gan ddengmil o’i ddeiliaid tylodion;
A theirmil o filwyr fu ‘n ymladd o’i du, Ac wythcant o’i ddisgynyddion,
Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, Eraill ar fronnau yn dechreu byw;
Wyrion, gorwyrion, a phlant gorwyrion Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw.

Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben, Na rhych ar ei dalcen mawr llydan;
‘R oedd deuddeg o’i feibion yn edrych yn hyn Na’r brenin oedrannus ei hunan.
Yn nhorf ei gynhebrwng ‘roedd bachgen bach mwyn, Yn drist a phenisel yn twyso
Y march heb ei farchog–y cyfrwy, a’r ffrwyn, A’r cleddyf yn unig oedd yno.
Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.

Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais, A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;
Ond cadwodd ei goron, a’i orsedd yn ddewr, A’i diroedd tan faner y Cymry.
Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif, Am hynny ni chollodd un deigryn;
Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a’i blant, Fe wylai, fe griai fel plentyn.
Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.

MYFANWY.
[O “Myfanwy Fychan”.]

“Myfanwy! ‘rwy ‘n gweled dy rudd
Mewn meillion, mewn briall, a rhos; Yng ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos;
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe ‘i cerir gan ddaear a nen.
I f’ enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti, Mil lanach, mil mwynach i mi.

“Fe ddwedir fod beirddion y byd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe bai anfarwoldeb yn awr
Yn cynnyg ei llawryf i mi,
Mi daflwn y lawryf i lawr –
Ddymunwn i moni, fe ‘i mathrwn os na chawn i di, – Myfanwy, os na chawn i di.

“O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Bran, I suo i’th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahan;
Mae ‘r awel yn droiog a blin –
Un gynnes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy ‘n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti, Tragwyddol yw ‘m serch atat ti.

“Mewn derwen agenwyd gan follt
Draig-fellten wen-lachar ac erch; Gosodaf fy mraich yn yr hollt
A chuddiaf beithynen o serch.
Ni’m gwelir gan nebun, ond gan
Y wenlloer–gwyn fyd na baet hi, Er mwyn iti ganfod y fan.
Ond coelio mae ‘m calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi – Eill ddwedyd y cwbl i ti.

Petrusai Myfanwy pwy oedd a roisai’r beithynen yn gudd? A dwedai,–“rhyw ffolyn o fardd,” ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd; Disgynnodd ei llygaid drachefn ar “na bawn yn awel o wynt Yn crwydro trwy ardd Dinas Bran,”–o churodd ei chalon yn gynt. “Mi droellet fy ngwallt–O mi wnaet! wyt hynod garedig,” medd hi, “A phe bawn yn suo i’th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti; Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di ‘n araf fy ffrynd,” – Hi geisiai ymgellwair fel hyn,–ond O! ‘r oedd ei chalon yn mynd! ‘R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi’r breuddwyd i ben,
Fod un o g’lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren – Heb gymar yn agen y pren.

GOFIDIAU SERCH.

Wyt ti ‘n cofio ‘r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y llwyn,
Pan ddywedaist yr aberthet
Nef a daear er fy mwyn?
Wyt ti ‘n cofio ‘r dagrau gollaist
Wrth y ffynnon fechan draw?
Wyt ti ‘n cofio ‘r hen wresogrwydd, – Wyt ti ‘n cofio gwasgu ‘m llaw?

“Hyd fy marw” oedd dy eiriau,
Y parhaet yn ffyddlon im’;
O fy ngeneth, O fy nghariad!
Nid yw poenau marw ‘n ddim.
Er wrth dorri ‘th addunedau,
I ti dorri ‘m calon i, –
Magi anwyl, mae dy gariad
Eto ‘n gariad pur i ti.

Mae ‘th lythyrau yn gwneyd i mi
Lwyr anghofio mi fy hun;
Mae dy gudyn gwallt yn hongian,
Fel helygen tros dy lun.
Llun dy wyneb, Magi anwyl,
O mae ‘n twynnu fel yr haul,
Nes ‘r wy ‘n teimlo gwae a gwynfyd
Nef ac uffern bob yn ail.

O f’ anwylyd! er mai CYFAILL
Yw yn awr fy enw ‘i,
Maddeu i mi am ddefnyddio
Yr HEN ENW arnat ti;
CARIAD wyt ti, Magi anwyl,
Bur ddihalog fel erioed;
Troi ‘st dy wyneb, cefnaist arnaf,
Minnau garaf ol dy droed.

WRTH WELD YR HAUL YN MACHLUD.

Wrth weld yr haul yn machlud,
Mewn eurog donog dan;
A mil o liwiau ‘n dawnsio ‘n deg,
Ar fyrdd o donnau man.
‘Rwy ‘n teimlo dwyfol wyddfod –
Shecina Natur yw;
Yn datgan ei ogoniant Ef
Yr Hollalluog Dduw.

Wrth weld yr haul yn codi,
Yn loew lan ei bryd;
Rwy ‘n gweld y glaer Shecina fawr,
Yn amgylchynnu ‘r byd.
Os gormod gwedd yr heulwen
I lygad marwol ddyn;
Fath ydyw ei ogoniant Ef
Y Crewr Mawr ei Hun!

Ar godiad haul yng Nghymru,
Ces lawer boreu gwiw;
Pan blygai ‘m tad wrth ben y bwrdd, I ddiolch am gael byw.
Caem eistedd yn y cysgod,
Tra ‘r haul yn croesi ‘r nef;
Mi gofiaf byth y weddi hwyr,
Ar ei fachludiad ef.

Y FODRWY BRIODASOL.

Cymer hi Annie, o cymer hi heno,
Mae’th fys gyda ‘th galon yn crynnu gan fraw; Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grio
Os nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw. Cyn mynd at yr allor y foru gad imi,
A’th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddol – Wel dyna hi ‘n gymhwys, da gwyddwn O Annie, Na wnaet ti byth dynnu ‘th addewid yn ol.

Cymer hi Annie, ‘does arni ddim cerfiad, Na gemau cywreinion i’w gweled yn awr; Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad, Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr.
Mae gennym ni gariad a leinw ‘n holl fywyd, Yn hwnnw ‘r ymffurfia y maen o fawr werth; Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd, Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth.

Cymer hi Annie, a’r nefoedd ro inni
O fewn ein haur- fodrwy fan fechan i fyw, Yn bur ac yn ddedwydd–yn unig boed ynddi, Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw. Mae ‘r bydoedd yn grynion a’r haul a’u goreura, Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon; Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa, Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon.

Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod, – Dwy enfys fach ydyw a’u deuben ynglyn; Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod,
A’r ail un yn amod mai ti fydd fy mun. Mae’n gyfan, mae’n brydferth, heb gymorth y gemau, Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd; Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau, Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.

Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro, Dyferwlaw ‘r amrantau rhag tywallt i lawr; Mae ‘n storm gyda minnau, gad imi tra dalio, Roi ‘m pen ar dy ysgwydd–rwy’n well Annie ‘n awr. Mae’th ddeigryn fy nghariad, a’m deigryn bach innau, Yn uno fel gwlithos neu fan arian-byw – Ond moes imi ‘r fodrwy, ti cei hi ‘n y boreu Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.

O WEDDI DAER.
[O “Jona.”]

O WEDDI DAER! gwyn fyd y fron
A fedro dy anadlu,
Yng nghalon edifeirwch gwir
Y cuddiodd Duw dy allu;
Yr isel lwch yw’th gartref di,
Ac mewn sachlian gwisgi,
Gwyn fyd y llais crynedig gwan
Dywallto ‘i hun ‘i weddi.

O WEDDI DAER! tramwyfa wyt
I lu o engyl deithio
I lawr i’r dyfnder at y gwan,
I roi eu hedyn trosto, –
I wlychu gwefus oer y llesg,
A gwin a’i calonoga;
O ddyn! os tynni wg y nef,
Dos ar dy lin–GWEDDIA.

Y BABAN DIWRNOD GED.

‘R oedd swn magnelau yn y graig,
A swn tabyrddau ‘n curo,
A chlywid trwst ofnadwy traed
Y Ffrancod wedi glanio,
A’r waedd i’r frwydr chwyddai ‘n uwch, Gan alw ‘r dewr i daro;
Terfysgwyd y glannau
Gan rym y taranau
A ruent ar lan y mor.

I dai ‘r tylodion rhuthrai gwyr,
Gan ladd y diamddiffyn,
A flamiai palas hardd gerllaw
Gan dan o longau ‘r gelyn;
Fe ffoai mamau gyda’u plant,
A chodai ‘r claf mewn dychryn;
Ond ‘r oedd yno ddynes,
A babi ‘n ei mynwes,
Rhy waelaidd a gwan i ffoi.

Ei gwr erfyniai wrth ei phen, –
“O cwyd! O cwyd! fy Eurfron!
Mae ‘r march a’r cerbyd wrth y drws, Tyrd iddo ar dy union!
Olwynwn ymaith fel y gwynt, –
Anwylyd, clyw ‘r ergydion!
O Dduw, a ddaeth diwedd
Fy mab, fy etifedd?
Fy mhlentyn a anwyd ddoe!”

Atebai ‘r wraig yn llesg ei llais, –
“Fy mhriod, clyw fy ngweddi,
O gad fi ar y gwely hwn,
Ond gad y baban imi;
Dos at y rheng i gadw ‘th wlad,
Fe gadwaf finnau ‘r babi.”
Y plentyn a hunai,
A’r tad a’i cusanai,
Ac yna fe ffodd i’r rheng.

‘Roedd swn cleddyfau yn neshau,
Gwawchiadau ac ysgrechian;
A’r wraig weddiai ‘n daer ar Dduw,
Gan edrych ar ei baban;
Ac yna holltwyd drws y ty
Gan filwyr oddi allan.
A hithau mewn dychryn
A wasgodd ei phlentyn
Yn nes at ei chalon wan.

Ar glicied drws ei ‘stafell wag,
Hi welai fysedd llofrudd,
Ac ar y foment rhuthrodd haid,
Yn swn rhegfeydd eu gilydd;
A syllent fel gwylltfilod erch,
O amgylch ei gobennydd;
Ar wraig wan yn crynnu,
A ddaliodd i fyny
Ei babi bach diwrnod oed.

Atebwyd gweddi ‘r ffyddiog fam,
A hi a’i mab achubwyd;
Mae hi yn awr ym mynwent werdd
Yr eglwys lle ‘i priodwyd;
Ac erbyn heddyw mae y mab
Yn hen weinidog penllwyd,
Yn estyn ei freichiau
I ddangos y Meichiau, –
Y baban y anwyd i ni.

Y FAM IEUANC.

Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei bachgen bychan cyntafanedig.

“Cewch eto deimlo ‘r heulwen
Yn gynnes ar eich grudd;
Cewch eto deimlo ‘r awel
Am lawer hafaidd ddydd;
Peidiwch a son am farw,
Peidiwch a meddwl am
I’ch plentyn fyw heb glywed
Na’ nabod llais ei fam.

“Peidiwch a son am farw,
Daw eto haul ar fryn;
Ac iechyd ddaw i’ch codi
O’r hen gystuddiau hyn.
Yn wan ei llais atebodd,
Peidiwch a son am fyw!
‘Rwy ‘n rhoi fy machgen anwyl
I’ch gofal chwi a Duw.”

Gadawyd yr ystafell
Am ddim ond ennyd fach,
A chlywid llais yn sibrwd, –
“Fy anwyl fachgen bach!
Fy machgen, O! fy machgen!
O na b’ai ‘th fam yn iach;
Fy nghyntaf, olaf blentyn,
Fy anwyl fachgen bach!

“Fy nghyfaill bychan NEWYDD
‘R wyf fi yn mynd i’r nef;
‘R wy ‘n myned at yr Iesu,
HEN gyfaill ydyw Ef!”
Bu farw, ac hi wywodd
Fel blodyn ar y dail,
Gan ddyweyd,–“Fy machgen anwyl!”
Ac “Iesu!” bob yn ail.

CEISIAIS DRYSOR

Ceisiais drysor yn y byd
Mi geisiais ac mi gefais un,
Oedd fwy o werth na ‘r byd ei hun, Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud

Yn yr arch mae ‘r oll yn awr,
Oddigerth y blodeuyn llon
Adawodd angau ar ei bron
I wenu ar y storom fawr.

Pan suddai ‘m llong, tan rym y lli,
O’i hystlys daeth rhyw nerth i’m dwyn Yn ol i’r lan. Fy mhlentyn mwyn
Bywydfad bychan oeddyt TI.

Mi hoffwn innau fynd i lawr.
Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon, Mi geisiaf fyw o don i don
Ar wyneb mor fy ngofid mawr

Y FYNWENT YN Y COED.

Yn araf y cerddasom,
I’r fynwent yn y coed;
Ac yno y claddasom
Chwaer fechan bedair oed;
Gan bedair o’i chyfeillion iach,
Mewn dillad gwynion claer,
Yng ngwydd ei thad a’i brodyr bach, I huno rhoed ein chwaer.

Ar waelod bedd y fechan,
Cyn gollwng corff ein chwaer;
Canfyddem arch wen newydd
Fel daeth o ddwylaw ‘r saer.
Ein hanwyl fam oedd yno ‘n fud,
Heb fawr o feddwl am
I’r plentyn OLAF yn y cryd
Ddod GYNTAF at ei fam.

Pan gaffom ninnau ‘n gollwng,
Mae gennym weddi daer, –
O boed ein llwch yn deilwng
O lwch ein mam a’n chwaer.
Fe awn yn fynych dros y cae
I’r fynwent yn y coed;
Y fan mae mam, a’r fan y mae
Chwaer fechan bedair oed.

CLADDASOM DI, ELEN.

Claddasom di, Elen, ac wrth roi dy ben I orwedd lle fory down ni,
Dihangodd ochenaid i fyny i’r nen,
A deigryn i lawr atat ti.

Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd, Pe hefyd bai bosibl ei gau;
Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd, Ac ni fedr angau nacau.

Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu ‘r gro, Ar gauad yr arch dy ddeffroi;
Ond udgorn a gan, ac o’r dywell fro, Yn wen a dihalog y doi.

Ai “tywell” ddywedasom? Nid tywyll i ti Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd,
Dy lamp oedd wenoleu;–nid ti, ond nyni, Sy ‘n dwedyd mai du ydyw ‘r bedd.

I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben, – Canfyddem di mhell oddi draw
Ar furiau Caersalem, a’th wisg yn glaer-wen, Yn gwenu gan estyn dy law, –

I’n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw; A thybiem ein bod wedi dod,
I gyffwrdd a’th law, ond deffroisom yn fyw, Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.

Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni, Nis erys gagendor yn hir;
O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi, Claddasom ein hunain yn wir.

Na, na, nis ffarweliwn, mae ‘r Iesu yn fyw, I’n dwyn ato ‘i hun a thydi;
Mae ‘r ffordd yn agored o’r ddaear at Dduw, A’r nef mewn addewid i ni.

ANNIE LISLE.
(Lledgyfieithiad.)

Ar fin yr afon araf yn y goedwig gain, Fan mae ‘r dwr yn gwneud arluniau gwiail melyn main, Fan mae ‘r adar haf yn canu yn eu temlau dail, Yma ‘r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.

Cydgan: Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.

Mwyn, mwyn yw ‘r awel beraidd, gana fel y del, Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel, Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle, Hi ni egyr ei du lygad, Angau ‘n dyn a’i deil.

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.

“Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i’m weld y plant, Yn y brwyn a’r melyn helyg draw ar fin y nant; Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu ‘r nef, Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef.”

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.

Y DEFNYN CYNTAF O EIRA.

Yr od, yr od! mae ‘r eira ‘n dod!
Rhwng y simneiau dacw fe,
Y defnyn cyntaf yn dod or ne;
Yn chware fel aderyn gwyn,
Trwy fwg a chaddug y melinau hyn.
Mae ‘n ofni disgyn, ac fel pe bae
Yn ail-ymgodi, ond disgyn mae.
Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr, Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr;
Gan edrych trwy ‘r ffenestri ban,
Fry gyda ‘r awel o fan i fan.
Mae ‘n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi, Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi –
Ond gwel ei lengoedd! Mil myrddiwn man O angylion gwynion y gauaf glan,
Sy ‘n dod ag amdo a chistfeddau ia, I gladdu meirwon flodau ‘r ha.
Y nef sy ‘n galw ‘r blodyn hardd
I fyw a gwenu o lwch yr ardd.
A phan fydd farw, nis anghofia ‘r nef Mo dyrfa wen ei angladd ef.

CAVOUR.

I Fyny ‘r mynydd dringai ef
Wrth ochor Garibaldi,
I weld yr haul yn dringo ‘r nef – Haul Rhyddid Itali.
Ond cyn i’r haul ymddangos ar ben y mynydd mawr Fe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr.

Y MILWR NA DDYCHWEL.

“Ni syrthiodd neb erioed i’r bedd,
Na welwyd rhywun prudd ei wedd,
Yn gollwng deigryn arno;
Ond wrth i filwr fynd i lawr,
Mae gwlad yn dod i’w arwyl fawr,
A chenedl oll yn wylo.”

A thithau, gyfaill, i dy fedd
Gollyngwyd ti,
Yn filwr ieuanc teg ei wedd –
Yn ei filwrol fri.

Pan wyliem dy febyd darllennem dy lygaid, A gwelem wrhydri cynhennid dy enaid,
A gwreichion dy ysbryd yn cynneu dy rudd; Pan droet orchestion dy gyfoed yn wegi,
A phob anhawsderau o’th flaen yn cyd-doddi, Coronwyd ti ‘n arwr ym more dy ddydd.

Mae cofio’th rinweddau fel milwr a Christion, Yn hafaidd belydru trwy brudd-der ein calon, Yn taflu goleuni tros len dy goffhad.
Fe’th ddysgwyd yn fore am Dduw dy rieni – Ond cyffiwyd y gliniau fu ‘n plygu mewn gweddi, Yn haiarn i elyn dy Dduw a dy wlad.

Pan wyliem ormesiaeth a’i duon adenydd Fel nos yn ymledu tros wyneb y gwledydd, E rwygwyd yr awyr gan udgorn y gad;
Dyrchafwyd y grechwen,–“Cychwynnwn, cychwynnwn, Yn ysbryd ein tadau arfogwn, ymruthrwn,” Nes galwyd i’r frwydr holl gedyrn y wlad.

Arfau ‘n tadyrddu a swn oedd yn dilyn, Aem ninnau i’r porthladd i’w gweled yn cychwyn, Ond cadwem yn ymyl ein cyfaill ohyd.
Pan welai ‘r fath bryder, ac ofn yn ein calon, Gorchfygwyd ei lygad gan ddagrau tryloewon, Ond ffarwel obeithion oleuodd ei bryd.

Fel gwennol yn dilyn y llong tros yr eigion, Felly ‘r dychymyg ddilynodd ein gwron,
Nes glaniwyd yn llawen heb arf o nacad – Gwersyllwyd am ennyd, ond ber fu’r orffwysfa, Nes sangwyd ar fryniau bythgofiol yi Alma, Uwchben amchwareufa ddychrynllyd y gad.

Edrych gyferbyn ar lengoedd y gelyn
Fel dirif locustiaid yn gwneuthur y dyffryn Mal affwys echryslon y fall –
A mil o fagnelau yn agor eu gyddfau, I chwythu tymestloedd ac eirias gawodau, I gladdu holl rengoedd y llall.

Ond megis ia llithrol
Yr Alpau tragwyddol,
Tros greigiau anhygyrch yn ceisio ‘r gwrthentyrch islaw: Trwy danllyd ryferthwy
Gwneir rhuthur ofnadwy,
Trwy ‘r afon i’r llechwedd gerllaw.

Mae rhai yn ymestyn at ystlys y gelyn, A’r lleill fel taranfollt yn hyrddio i’w erbyn, I loches y fagnel a’r tan;
Ond llamwyd i’r gloddfa, gorchfygwyd yn Alma, A’r meirwon led-glywsant y gan.

Pwy welais yn arwain hen gatrawd fy ngwlad, Yn flaenaf, yn nesaf i’r gelyn?
Pwy gwympodd ar fynydd llosgfalog y gad, Gan godi o’i waed i oresgyn?

Pwy oedd yr un hwnnw a ddaliodd fel twr, Yr ufel raiadrau diri?
Tydi, tydi gyfaill, tydi oedd y gwr, A milwr fel hyn oeddyt ti.

Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth, Dy ddewredd, a’th fedr milwrol;
Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth, Fel arwr ar faes Cristionogol.

Ar wefus y milwr dolurus a gwan,
Y gwasget rawnsypiau tosturi;
A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran, Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi.

Esmwythaist y clwyfus a balm oddi fry, Pan ballai daiarol feddygaeth;
A glyn cysgod angau oleuwyd i lu
Pan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth.

Er cymaint y caret dangnefedd dy wlad, Ac aelwyd dy riaint yn drigfan;
Rhy bur dy gydwybod i dderbyn mwynhad A throi oddiwrth erchwyn y truan.

Pan ddaw y fath adeg–pan na fydd y byd Yn agor cyfrolau rhyfeloedd,
Coffeir y gwir filwr, a’i enw o hyd, Fydd beraidd am fil o flynyddoedd.

Tra dyn ar y ddaear ac hefyd tra bo
Y nefoedd yn edrych ar rinwedd;
Bydd glan y Mynorfor yn anwyl mewn co Lle rhoddwyd gwir filwr i orwedd.

Gorphwysa fy nghyfaill yn ngwychder dy fedd, Ar filoedd disgynned dy ysbryd;
Ond bwried rhyfeloedd i foroedd o hedd, A dyn i heddychol ddedwyddyd.

CARCHAROR NAPLES.

Mewn carchar du oer y cadwynwyd fi,
Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio–bloeddio! A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri,
Fod y dydd yn dod i fy nghollwng i; A dyna fagnelau yn rhuo,–rhuo!
Mae ‘r dorf yn cyhoeddi Jubil-ddydd, Garibaldi sy ‘n dyfod im’ gollwng yn rhydd.

Mi glywaf yn dod offerynau pres,
A mil o dabyrddau yn tyrddu,–tyrddu! Can rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwres
Fel y del yn mlaen, yn nes ac yn nes, Nes mae fy hen garchar yn crynnu,–crynnu! Fe wel fy ngolygon oleu ddydd,
Garibaldi sy ‘n dyfod i’m gollwng yn rhydd.

Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys, Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn–bloeddiwn, Mae ‘r Eidal ein gwlad yn rbydd yn ddilys, Mae y sedd yn wag yn y gormes lys,
Caneuon Itali, O! canwn,–canwn!
A diolch i’r nefoedd, daeth y dydd, Garibaldi gyrhaeddodd, mae ‘r Eidal yn rbydd.

GLOGWYN ANWYL.
[O “Owain Wyn.”]

“Glogwyn anwyl, hoff gan i
Yw hamdden am fynudyn,
Taflu carreg i fy nghi,
Neu eistedd ar dy gribyn:
Gwylio’r afon glir islaw,
A gollwng fy myfyrion
I’r terfysglyd drefydd draw,
Ym miwsig ei murmuron.

Bywyd Bugail–bywyd yw
Nas gwyr y byd am dano,
Heibio ‘r bryniau wele ‘r byw
Fel nant yn rhedeg heibio;
Golud, enw, bydol fri,
Yw eilun-dduwiau dynion;
Mwy na ‘r oll i’m golwg i
Yw praidd y bryniau gwylltion.

Praidd y mynydd–O! fy mhraidd!
Mae pleser wrth eich gwylio,
Cyn i’r ser fachludo braidd,
A chyn i’r dwyrain ddyddio;
Pan gusano’r haul y lli’,
Y’m gyda chwi ein defaid;
Fel ein calon, felly chwi
Ym mynwes eich bugeiliaid.

Gyda phraidd y mynydd gwyllt,
Tynghedwyd ni a’n dyddiau;
Llwybrau defaid, wyn a myllt,
Yw ‘r llwybrau deithiwn ninnau;
Weithiau tan y creigiau certh,
Yng nghanol y mynyddoedd,
Dim i’w weld ond bryniau serth,
A thyner lesni’r nefoedd;

Yna dringo pen y bryn,
Hyd risiau craig ddaneddog,
Gweld y nant, y cwm, a’r glyn,
Y ddol, y gors, a’r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd, yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o’n tadau.

Llawer craig fygythiol sydd
Yn gwgu ar ein bywyd;
Ond mae arnynt ddwylaw cudd,
Ac nid oes maen yn syflyd;
Clywir llais y dymhestl gref,
A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau ‘r nef,
Ond huno wna ‘r mynyddoedd.

Fel yr hen fynyddoedd clyd
Y’m ninnau ym mysg dynion;
Ysed tan ddinasoedd byd,
A chwymped seddau ‘r mawrion,
Llwybro gyda ‘n defaid wnawn,
A thrin ein huchel diroedd;
Hun o bur dawelwch gawn
Ym mynwes y mynyddoedd.

FFARWEL ITI, GYMRU FAD.

Ffarwel iti, Gymru fad,
Mynd yr ydym tros y tonnau,
Mynd gan adael ar ein holau
Beddau mam a beddau tad;
O ffarwel, ein hanwyl wlad.

Tua ‘r lan fe drodd y bad,
Tra cyfeillion ger yr afon
Godant eu cadachau gwynion;
Rhaid dy adael, Gymru fad,
O! ffarwel, ein hanwyl wlad.

Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,
Bydd yr heniaith a ddysgasom,
A’r alawon a ganasom
Gyda ni mewn estron wlad;
Ffarwel iti, Gymru fad.

TROS UN O DRUMIAU BERWYN.
[O “Owain Wyn.”]

Tros un o drumiau Berwyn.
Ryw noson ddistaw oer,
Y teithiai gwr lluddedig
Wrth oleu can y lloer.
Fry uwch ei ben yn crynnu
‘Roedd llawer seren dlos,
A chlywid yntau ‘n canu
Fel hyn i glust y nos:-

“Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda ‘r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd ynghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
Wyliant uwch eu pennau ‘n fud.

“Mewn pellenig gartrefleoedd
Wedi ofn a phryder hir,
Hoff freuddwydion fy mlynyddoedd
Sylweddolwyd gan y gwir;
Os ffarweliodd anobeithion
Ar fy ngenedigol wlad,
Ni ffarweliais yn fy nahalon
Gydag anwyl dy fy nhad.

Dacw ‘m cartref is y goedwig,
Groesaw! hen arwyddion hedd;
Dacw ‘r fynwent gysegredig,
Wele ‘r ywen–dyna ‘r BEDD!”
Darfyddodd can y teithiwr
Mewn teimlad llon a phrudd,
A deigryn gloew, gloew,
Ollyngodd tros ei rudd.

Aeth heibio dor ei gartref,
Os gofyn wnei paham,
Awgrymed dy deimladau,
A chofia FEDD EI FAM!
A threnlio ‘r noson honno
Ar fedd ei fam wnaeth ef,
Nes suddo ‘r seren fore
I eigion gwyn y nef.

DYCHWELIAD YR HEN FILWR.

Pell, pell, yw telyn Cymru
O fy llaw;
Do, dywedais gan alaru –
Byth ni ddaw,
O’r dydd y cenais ffarwel
A chwi wrth fynd i ryfel,
O’m mewn bu ‘r geiriau dirgel –
“Byth ni ddaw.”
A rhuai safn y fagnel,
“Byth ni ddaw.”

Ffarweliais pan yn fachgen
Gyda chwi,
Yng nghanol dyddiau llawen
Rhannwyd ni;
Ond nid yw ‘r floedd fu ‘n galw
Tros ryddid, gwlad, ac enw,
O fewn fy nglust yn farw,
Na, mae cri
A llais yr amser hwnnw
Gyda mi.

Ond nid yw ‘r holl wynebau
Ger fy mron,
Yr hardd rosynaidd ruddiau
Ieuanc llon.
Bu pellder i’n gwahanu,
Bu amser yn ein gwynnu, –
Do, do, mae wedi claddu
Oll o’r bron;
Ac atynt y’m yn nesu
Bawb a’i ffon.

Wyt eto, delyn Cymru,
Yn fy llaw;
Ond ieuanc nerth i’th ganu,
Byth ni ddaw.
Ond clywaf swn dy dannau
Yn murmur megis tonnau,
Ar for yr hen amserau
Yn ddidaw;
Yn torri ar hoff lannau –
Pell, pell, draw.

I’th erbyn delyn heddwch,
Pechais i;
Ond eto mewn tawelwch
Wele ni.
Mae llaw a driniodd arfau,
Mae llaw wasnaethodd angau
Yn cyffwrdd gyda’th dannau
Anwyl di;
Os aeth o gof dy chwarau,
Torrer hi.

Na, na, er ei chaledu
Gan y cledd,
Daw rhwng y bysedd hynny
Bennill hedd;
Os gwelir dwfn ysgrifen
Blynyddoedd ar fy nhalcen,
Os ciliodd enw bachgen
O fy ngwedd –
Rwy ‘n teimlo eto ‘n llawen,
Ger fy medd.

Gwir sylweddoliad breuddwyd
Ger fy mron,
Yw gweled eto ‘r aelwyd
Anwyl hon.
Ar faesydd rhuddion angau
Trwy dewfwg y magnelau,
Cyfeiriais fil o weithiau
Tros y don;
At gysegredig furiau
Mebyd llon.

Pell, pell, fu telyn Cymru
O fy llaw;
Do, dywedais gan alaru, –
Byth ni ddaw.
Ond wele ni, gyfeillion,
Yn yfed gwin cysurlon
O gwpan hen adgofion
Yn ddifraw, –
A wele ‘r tannau mwynion
Yn fy llaw.

TRWY WLEDYDD DWYREINIOL.
[O “Owain Wyn.”]

Gadewais fy mhraidd ar y mynydd,
A chefnais ar drumiau fy ngwlad,
Breuddwydiais am fyd o lawenydd
Tu allan i furiau fy nhad;
Yn ol i’r mynyddoedd dychwelais,
Ond dysgais, a’m dagrau yn lli,
Os bywyd y milwr arweiniais,
Mai’r cymoedd yw’r cartref i mi.

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais
Ond cofio gwyllt Walia oedd loes; O wagedd ieuenctyd yr yfais
Nes chwerwais felusder fy oes;
Nid ofnaf lefaru fy nheimlad, –
Chwi wledydd goruchel eich bri,
Yn mhell byddoch byth o fy llygad, – Mynyddau ‘r hen Ferwyn i mi.

Mae gobaith cael eto cyn angau
Ailddringo llechweddau fy mro,
I gasglu y praidd i’w corlannau
Hyd lwybrau cynefin i’m co;
Uwch bedd anrhydeddus y milwr
Mae enfys arddunol o fri;
Ond rhowch i mi farw ‘n fynyddwr,
A beddrod y bugail i mi.

Y GARREG WEN.

Os pell yw telyn aur fy ngwlad
O’m dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dy fy nhad,
Lle gynt chwareuid hi:
Mae ‘r IAITH er hynny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
I’r byd–mae’n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o’m teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn ban,
A choed afalau ar y lan,
Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa’r dwr mae llyn,
A throsto bont o bren;
A charreg fawr, fel marmor gwyn,
Gynhalia’r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
Pan ar fy Ngharreg Wen.

Pan ddeuai ‘r Gwanwyn teg ei bryd
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau ‘r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin;
Yn afon fawr ai ‘r gornant fach;
Pysgotwn ar ei glennydd iach –
A phin blygedig oedd fy mach
Yn grog wrth edau lin.

Ni waeth pa ran o’r eang fyd
A grwydraf tra b’wyf byw,
Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,
A’r nant sydd yn fy nghlyw;
A phan hysbyswyf estron ddyn,
Mai ati’ hedaf yn fy hun,
Maddeua ‘m ffoledd am mai un
O gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes,
Serenog fel y nen;
Ac ymysg dynion neb nid oes,
Na hoffa godi ei ben
I edrych draw i’r amser fu –
A syllaf finnau gyda’r llu –
Ac O! fy seren fore gu
Wyt ti, fy Ngharreg Wen.

Os cyraedd ail fabandod wnaf,
Cyn gollwng arna’r llen;
Os gauaf einioes byth a gaf,
A’i eira i wynnu ‘m pen –
Bydd angau imi ‘n “frenin braw,”
Nes caffwyf fynd i Walia draw,
At dy fy nhad, i roi fy llaw
Ar ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho’
Gyfeillion mud yr ardd;
Nis clywir trystfawr swn y gro
Ar gauad arch y bardd;
A dagrau pur tros ruddiau ‘r nen
Fo ‘r oll o’r dagrau uwch fy mhen – Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen
O gerrig gwynion hardd.

Colofnau wnaed i feibion bri,
Uchelfawr tua’r nen;
Ond noder fy ninodedd i
Gan garnedd uwch fy mhen;
‘Rol gado gwlad y cystudd mawr,
Os byw fy enw hanner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
Ond Bardd y Garreg Wen.

TUAG ADRE.

O ddydd i ddydd mae melyn haul
Yn pasio yn ei gerbyd;
O nos i nos mae ‘r lleuad wen
Yn codi ac yn machlud?
O awr i awr mae ‘r ser yn troi
Ar draws yr eangderau; –
Yn wir, mae holl greadigaeth Duw
Yn teithio tuag adre.

Mae ‘r ffrydlif fach, ar ben y bryn,
Yn rhedeg megys crwydryn;
Ac afon fawr, y dolydd is,
Yn rhedeg yn y dyffryn;
Mae ‘r gwynt yn crwydro yn y nef,
A symud mae ‘r cymylau; –
Ac O! mae holl greadigaeth Duw
Yn teithio tuag adre.

Mae gwynt Diwygiad ar ei daith,
A derw Cymru ‘n gildio,
Mae swn gorfoledd yn y dail, –
Mae swn canghenuau ‘n cracio;
O! Anadl, tyrd o’r pedwar gwynt,
A chymer y byd mewn hymnau,
Can a moliant iddo Ef,
I byrth tragwyddol gartre.

BEIBL FY MAM.

Y cyfan oll sydd genny ‘n awr
Yn y cyfanfyd crwn
Yw ‘r fendigedig gyfrol hon,
Yw ‘r Beibl anwyl hwn.
Mae ‘n dechreu gyda dalen deg
Ein pren teuluaidd ni:
Fy mam wrth farw, megis mam
A roddodd hwn i mi.

Rwy’n cofio ‘n dda rai enwau hoff,
Ar ddechreu ‘r gyfrol hon;
Fy mrawd, fy chwaer, a’r baban bach Fu farw wrth y fron.
Rwy ‘n cofio ‘r hwyr darllennai ‘nhad, Am Grist ac angeu loes;
Ac fel y codai ‘r Beibl hwn
Wrth son am waed y groes.

Mi dreuliais lawer awr erioed,
I feddwl am y fan;
Rwy ‘n gweld y teulu ‘n fyw, er fod Eu beddau yn y Llan.
Rwy ‘n gweld y plant ar derfyn dydd, A’r bychan byr ei gam
Yn myned ar ei ddeulin bach,
Wrth lin fy anwyl fam.

Mae ‘r byd yn wag, cofleidiaf di,
Fy Meibl anwyl iawn;
Y fynwent a’th ddalennau di
Yw ‘r unig bethau llawn.
Esmwytha di fy ffordd i’r bedd
Trwy ddysgu ‘r ffordd i fyw:
Crynedig dwylaw fo ‘n dy ddal
Fys anweledig Duw.

ALUN MABON.
BUGEILGAN DELYNEGOL.

I.

‘R oedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoew;
Yn berchen grudd a thalcen hardd,
A llygad gloew, gloew.
Er nad oedd goeth ‘nol dull y byd,
Fe ellid dweyd er hynny
Fod ganddo galon gynnes bur
Yn natur wedi tyfu.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel y blodyn bychan
Oedd ar y grug wrth gefn ei dy,
Blagurodd yntau allan. –
Fe gafodd hafddydd yn yr haul,
A gauaf yn y stormydd;
Ac yna megis blodyn grug,
Fe wywodd ar y mynydd.

II.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngo a’r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
Lle nad oedd carreg ateb.
Ond dywed traddodiadol go,
I’r llon a’r prudd o dro i dro
Ddod ato yn ei fryniawg fro
Fel haul a storm i’w wyneb.

Ar rai o fydrau Cymru lan,
Rhyw gais at roi arluniau man
O fywyd Alun ydyw ‘r gan
Fugeiliol sydd yn canlyn;
Ac mae bywgraffiad byw o’r dyn,
Yn ei ganeuon ef ei hun,
A’i “Arad Goch” yw ‘r gyntaf un
Gaiff fyned efo ‘r delyn.

III.

Os hoffech wybod sut
Mae dyn fel fi yn byw,
Mi ddysgais gan fy nhad
Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneyd y gors
Yn weirglodd ffrwythlon ir,
I godi daear las
Ar wyneb anial dir.
‘Rwy’n gorwedd efo’r hwyr,
Ac yn codi efo’r wawr,
I ddilyn yr og, ar ochr y Glog, A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,
Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
Rhwng cyrn yr arad goch;
A pheidiwch meddwl fod
Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
I fryniau ucha’r wlad.
‘Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.

Yn ol eich clociau heirdd,
Bob bore codwch chwi:
Y wawr neu wyneb haul
Yw ‘r cloc a’n cyfyd ni;
Y dyddiaduron sydd
Yn nodi ‘r haf i chwi;
Ond dail y coed yw ‘r llyfr
Sy ‘n dod a’r haf i ni.
‘Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.

Nis gwn i fawr am fyw
Mewn rhwysg a gwychder byd;
Ond diolch, gwn beth yw
Gogoniant bwthyn clyd;
Ac eistedd hanner awr
Tan goeden ger fy nor,
Pan aiff yr haul i lawr,
Mewn cwmwl tan i’r mor.
‘Rwyn gorwedd efo ‘r hwyr, &c.

Cerddorion Ewrop ddont
I’ch mysg i roddi can:
‘R wyf innau ‘n ymfoddhau
Ar lais y fronfraith lan;
Wrth wrando ‘r gwcw las,
A’r hedydd bychan fry,
A gweled Robyn Goch
Yn gwrando ‘r deryn du.
‘Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Ddinaswyr gwaelod gwlad,
A gwyr y celfau cain,
Pe welech Fai yn dod,
A blodau ar y drain –
Y rhosyn ar y gwrych,
A’r lili ar y llyn;
Fe hoffech chwithau fyw
Mewn bwthyn ar y bryn.
‘Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Pan rydd yr Ionawr oer
Ei gaenen ar yr ardd,
Y coed a dro’nt yn wyn
Tan flodau barrug hardd;
Daw bargod dan y to
Fel rhes o berlau pur,
A’r eira ddengys liw
Yr eiddew ar y mur.
‘Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Daw Ebrill yn ei dro,
A chydag ef fe ddaw
Disymwth wenau haul,
A sydyn gawod wlaw;
Fel cyfnewidiog ferch,
Neu ddyn o deimlad gwan,
Galara ‘r awyr las,
A gwena yn y fan.
‘Rwy’n gorwedd efo ‘r hwyr,
Ac yn codi efo ‘r wawr,
I ddilyn yr og ar ochor y Glog A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.

IV.

Dowch i’r mynydd yn y bore,
Chwi gewch weld y wawr-ddydd deg
Yn ymwrido ar y bryniau,
Fel genethig dair-ar-ddeg.
Diffodd lampau ‘r nos,
Goleu ‘r ddaear dlos,
Rhodio tros y bryniau mawr,
Gosod cymyl claer
Mewn ymylon aur,
Dyna waith y wylaidd wawr.

Dowch i’r mynydd gyda’r hwyrddydd,
Pan aiff haul i’w fachlud awr;
Chwi gewch weled brenin Gwynddydd
Yn ei waed yn cwympo i lawr.
Duo ‘n ddyfnach bydd
Mynwent laith y dydd,
A daw nifwl ar y mor,
Lleuad gwyd ei phen,
Hwyrddydd rodia ‘r nen
I ail oleu lampau ‘r Ior.

V.

Mi genais gerdd i’r Arad Goch,
A cherdd ar Ddowch i’r Mynydd:
Ond beth be bawn i eto ‘n dod
I ganu can anghelfydd
Ar alaw anwyl “Blodau ‘r Cwm,”
Mae pawb yn gwybod honno;
A beth pe bawn yn dewis pwnc
Y gwyr pob dyn am dano?

O! gwyn ei fyd yr hwn nis gwyr
Am ferch fu ‘n flinder iddo;
Ond wn i ddim yn sicr chwaith,
Ai gwyn ei fyd, ai peidio.
Mae’n ddigon hawdd gan ambell un
Sydd wedi cael ei ginio,
Areithio llawer wrth ryw blant
Y gallant aros hebddo.

Fe guchia gwyneb llawer tad,
Pan glywant gan cariadau:
Tra ‘u plant eu hunain wrth eu traed Yn chwerthin am eu pennau;
Ni welais i ‘run deryn bach
Yn hoff o fyw yn unig;
Ac ni fu oen yn hoff o’i fam
Nad oedd yn hoff o oenig.

Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn
Na mam yn hoff o’i phlentyn,
Nad ydoedd serch at ferch neu fab
Yn gyntaf wedi ennyn.
Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,
A’i enaid fel yn huno,
Nes daw rhyw lygad fel yr haul
I wenu cariad arno.

Aeddfedodd dyn erioed yn iawn
Ar gangen fawr dynoliaeth,
Os bydd ei wedd heb wrido ‘n goch,
Yng ngwydd ei anwyl eneth.
Ond nid athromaeth dal i feirdd, –
Barddoniaeth ydyw ‘r testyn:
Am hynny tyred, Menna Rhen,
Fy awen a fy nhelyn.

VI.

Pan welais gyntaf Menna Rhen
Yn myned tua ‘r mynydd,
Yr oedd plentynrwydd tyner llon
Yn dirion ar ei dwyrudd;
Ac efo ‘i brawd y byddai beunydd,
Yn adsain miwsig hyd y meusydd;
‘R oedd ganddi lais, a chanddi ddeall I ganu a charoli’n ddiwall,
Ond nid oedd dim yn Menna Rhen –
Ddim mwy na rhywun arall.

Mi welais eilwaith Menna Rhen
Yn myned tua ‘r mynydd;
A byth er hynny, coeliwch fi,
Bu ‘n boenau imi beunydd.
Yr oedd y don a genid ganddi
Fel yn aros gyda myfi;
Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion, A nosweithiau mewn breuddwydion,
Nes credais fod can Menna lan
Yn ngwaelod isa ‘nghalon.

Mi welais wedyn Menna Rhen
I’r mynydd hwnnw ‘n myned,
Ac mi ddilynais ol ei throed
Bob cam a fedrwn weled;
Ond hi o’r diwedd oddiweddais,
Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais
Farddoniaeth dlysach mewn un munud
Na dim a genais yn fy mywyd,
Wrth roddi cangen fedwen ferth
Yn nwylaw fy anwylyd.

VII.

Tra ‘n cysgu ‘r nos ddilynol
Canfyddais trwy fy hun,
Y gangen fedwen honno ‘n bleth
Am wddf fy anwyl fun;
Y dail a ddeuent arni,
Yn wyrdd a llawn bywhad;
A gwelwn hi ‘n blodeuo ‘n hardd,
Ac yna ‘n hadu had.
Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd
O freuddwyd heb ei ail!
Canfyddwn locust melyn ddu
Ymysg y bedw ddail;
Ymlusgodd ac ymrwyfodd
Nes cyffwrdd gwddf y ferch,
Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,
Ond hunllef hagr erch.

Diolchais am gael deffro
Pan ddaeth yn doriad dydd;
Ond cofiais ddechreu’r breuddwyd hwn Yn fwy na ‘i ddiwedd prudd. –
Meddyliais am y blodau
Oedd ar y brigau cain,
Yn fwy nag am y locust erch
Lochesid yn y rhain.
Fy nghalon losgai ynnof
Wrth gofio llygad Men;
Ac adeiladais lawer llys
A chastell yn y nen;
Ond maluriasant ymaith,
Cyn dechreu mynd yn hen,
Oherwydd cangen GOLLEN ddaeth
Oddiwrth fy Menna Rhen.

VIII.
ALAW,–Hob y Deri Dando.

Mae gan bawb ei brofedigaeth,
Paid a siarad gwirion,
Ond myfi gadd siomedigaeth
Paid a thorri ‘th galon;
Rhyfedd iawn os na wnaf farw,
Siwr, siwr iawn,
Siomedigaeth chwerw arw;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.

Rown i’n meddwl ei bod hi’n ddidwyll, Paid a meddwl gwirion, –
Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll;
Dyna fel mae dynion.
Dynion sydd a’r synwyr cryfa,
Siwr, siwr iawn,
Ond gwrthodwyd fi gan Menna;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.

Rhoddais iddi gangen fedwen,
Beth ddywedodd Menna?
Gyrrodd imi gangen gollen,
Wel, hi wnaeth yn eitha’.
Ond parhaf o hyd i’w hoffi,
Siwr, siwr iawn,
Pe b’ai ‘n gyrru amdo imi;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.

IX.

‘R oedd gennyf fi gyfaill pur anwyl a hoff, Yn fy nghyfarfod bob amser a gwen;
Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi Fy neheulaw i Menna Rhen.
Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod, Siaradodd a’r llances ei hun –
Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddail Y fedwen a welais trwy f’ hun.

Mae llawer ffordd i lofruddio dyn
Yn y byd llofruddiog hwn;
Os cwrddwch a lleidr yng ngwyll y nos, Bydd angau ar ffroen ei wn;
Fe gymer eich arian ar ol eich lladd, I’w logell losgedig ei hun,
Ac yna fe ‘ch tafl i ffos y clawdd, – Dyna ffordd LLEIDR i fwrdro dyn.

Mae arall o falais yn dod gyda gwen,
I ro’i i ddyn ddiod yn hael,
Mae yntau ‘n cymeryd, ond bychan y gwyr Mai cwpan o wenwyn mae ‘n gael;
Mae un yn ymdrengu, a’r llall yn boddhau Rhyw deimlad sydd ynddo fe ‘i hun –
Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan ‘i ben, Dyna ffordd LLOFRUDD i fwrdro dyn.

Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi, Fel cyfaill diffuant bob pryd,
Ac rywfodd i’ch mynwes yn gynnes yr a, Nes cael eich cyfrinach i gyd. –
Ac yna mae ‘n myned i sibrwd ei serch I galon un garech eich hun –
Yn ennill y llances garasech erioed; Dyna ffordd CYTHRAUL i fwrdro dyn.

X.
ALAW,–Y Melinydd.

Ond chaiff y gangen fedwen
Ddim gwywo ‘n goch ei lliw
Nes af i siarad eto
Yng ngwyneb Menna wiw.
Fa la, &c.

Mae gennyf dy fy hunan,
Heb ddegwm, rhent, na threth;
A phan eisteddaf ynddo,
‘Rwy’n frenin ar bob peth.
Fa la, &c.

Mae gennyf barlwr bychan,
Ac aelwyd fechan lan;
A’m tegell i fy hunan
Sy ‘n canu wrth y tan.
Fa la, &c.

Mae gennyf gant o ddefaid
Yn pori ar y bryn,
A gallaf godi ‘m cyfrwy
Ar gefn fy ngheffyl gwyn.
Fa la, &c.

Mae gennyf ferlyn mynydd,
I fynd i weled Men;
Nad all neb ond fy hunan
Roi rheffyn yn ei ben.
Fa la, &c.

Mae ‘r ardd, a’r cae, a’r ffriddoedd, A’r ty yn eiddo im’;
Ond heb fy Menna anwyl
‘Rwyf fel pe bawn heb ddim.
Fa la, &c.

Fe ‘i ceisiaf unwaith eto,
Ac os gwrthodir fi,
Tros fil o weithiau wedyn
Am Fenna ceisiaf fi.
Fa la, &c.

XI.

Gwelais bren yn dechreu glasu
Ei ganghennau yn yr ardd
Ac yn dwedyd wrth yr adar, –
“Wele daeth y Gwanwyn hardd.”
Daeth aderyn bychan heibio,
Ac fe safodd ar ei frig;
Ac fe ganodd gyda deilen
Newydd irlas yn ei big.

Daeth aderyn bychan arall
Ar las gangen yn y coed,
Fe ysgydwodd blu ei aden
Ac fe ddawnsiodd ar ei droed;
Canodd yntau, a dewisodd
Fan lle carai wneyd ei nyth,
O! mae ‘r Gwanwyn fel yn cadw
Natur hen yn ieuanc byth.

Eis o dan fy nghoeden fedwen
Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ol y gyllell,
Lle torasid cangen Men.
Gwnaeth adgofion i’m ofidio
Na buasai ‘r gainc yn wyw;
Ond canfyddais gangen ieuanc
Yn y toriad hwnnw ‘n byw.

O mae gobaith mewn gwrthodiad,
Meddwyf innau wrth fy hun;
Er fy nhorri gallaf dyfu
Eto yn serchiadau ‘r fun.
Troes fy wyneb tuag adref,
Teflais lawer tremiad ffol
Tros fy ysgwydd at y fedwen
Las adewais ar fy ol.

XII.

Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi ‘r moroedd
I’r ynys fechan hon.

A chwcw gynta’r tymor
A ganai yn y coed,
‘Run fath a’r gwcw gyntaf
A ganodd gynta’ ‘rioed.

Mi drois yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple ‘r oedd y deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren;
Ac yno ‘r oedd y gwcw,
Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma ‘n cwrdd –
Mi sychais i fy llygad,
A’r gwcw aeth i ffwrdd.

XIII.

Ar ol i’r gog fy ngadaw, efo ‘r pren, Dechreuais ganu ‘r alaw Mentra Gwen;
Cyfodi wnes yn union,
A theimlais fwy na digon
O ganu ar fy nghalon, Mentra Men,
Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.

Os gyrraist imi gollen, Menna Wen,
Fe yrraf eto fedwen Menna Wen,
Pe b’ai holl fedw Cymru
Tan farn yn gwywo ‘fory,
Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men, Nes byddent yn aildyfu, Menna Wen.

Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren, A blodau ‘r haf yn gwywo, Menna Wen.
Perogli wedi marw
Wna ‘r dail sydd ar y bedw,
Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen,
Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen.

XIV.
ALAW,–Clychau Aberdyfi.

Wrth feddwl am y gangen gyll
Ddanfonodd Menna imi;
Draw ‘n y pellder clywwn swn
Hen glychau Aberdyfi –
“Menna eto fydd dy fun,
Gad y pruddglwyf iddo ‘i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”
Meddai clychau Aberdyfi.
“Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”
Meddai clychau Aberdyfi.

Hawdd gan glychau ganu ‘n llon,
Tra na bo dim i’w poeni:
Hawdd yw cael gweniadau merch,
Ond mil mwy hawdd en colli.
“Menna eto fydd dy fun,” &c.

Pe bai etifedd i wr mawr
Yfory ‘n cael ei eni;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
“Menna eto fydd dy fun,” &c.

Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,
Yfory ‘n mynd i’w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi,
“Menna eto fydd dy fun,” &c.

Pe bawn i fory ‘n mynd i’r bedd,
A’m calon wedi torri;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
“Menna eto fydd dy fun,
Gad y pruddglwyf iddo ‘i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”
Meddai clychau Aberdyfi.
“Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn”
Meddai clychau Aberdyfi.

XV.

‘R wyf wedi canu llawer
O gerddi Cymru lan,
Ond dyma ‘r darn prydferthaf
Sydd gennyf yn fy nghan;
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
At Menna Rhen daeth brys,
Nes aeth yn Menna Mabon
A modrwy am ei bys.

Yn mhen rhyw flwyddyn arall,
A dyma ddernyn cain;
Pan oedd y gog yn canu
A’r blodau ar y drain,
Yr wyn ar ben y mynydd
Yn chware naid a llam,
Fe wenai Mabon bychan
Ar freichiau gwyn ei fam.

XVI.

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
Trafferthion a helbul y byd,
Fy nheulu gynyddodd, a daeth
Gofynion am ‘chwaneg o yd;
Ychwaneg o fwyd i’r rhai bach,
Ychwaneg o lafur a thraul;
Er hynny yn nghwmni fy Men,
Yr oedd imi gysur i’w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,
A chweryl dra chwerw oedd hon;
Fe yrrwyd fy hunan a’m gwraig,
Ar ty’n bendramwnwgl bron. –
Yr oedd hi ‘n bur hoff o roi tro
I weled ei mam tros y bryn;
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
Dechreuodd areithio fel hyn:-

“Cymeryd fy hel a fy nhrin,
Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
Heb deimlad–na llygad–na chlyw! O! na wnaf, os gwelwch chwi ‘n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!

“A chymer di fi ar fy ngair,
Fe ‘i cedwais erioed hyd yn hyn;
Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,
Bydd dy ben yn eitha gwyn. –
Cymeryd diflasdod a chas,
A galw fy modryb yn ‘sgriw.’ –
O! na wnaf, os gwelwch chwi ‘n dda, Wnaf fi ddim er undyn byw!

“Ni flasa i fynd allan o’r ty,
I weled fy chwaer na fy mam,
Nad codi ‘r gloch fawr byddi di,
Heb reswm, nag achos, na pham. –
Wna i mono fo, Alun, er neb,
Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;
O! na wnaf os gwelwch chwi ‘n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!

“‘Does gen’ ti ‘r un galon o’th fewn, A phwyll yn dy goryn ni ‘roed;
A gwae fi o’r diwrnod a’r awr [yn crio.] Y gwelais dy wyneb erioed!
Mi af tros y bryn at fy nhad,
I’m hatal ‘does undyn a wiw;
Ac aros yn hwy efo ‘th di –
Wnaf fi ddim–wnaf fi ddim!
Wnaf fi ddim er undyn byw!”

Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am nas gwn i pa hyd. Ond tra yr oedd hi efo ‘i mam a’i theulu, a minnau yn fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac fel hyn y cenais, –

XVII.

Mae ‘r lloer yn codi tros yr aig
Ac ogof Craig Eryri;
Ond beth yw cartref heb fy ngwraig, Ond ogof ddioleuni?
Y mae pob munud megis awr,
Ac awr, O! Menna, ‘n flwyddyn.
Pe bawn i heno ‘n dderyn to,
Caet heno weled Alun.

O na bai cadair Morgan Mud,
Neu un o’r hen freindlysau,
Yn mynd a fi, fy ngeneth wen,
Tros ben y coed a’r caeau.
Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,
A gwnawn i ti freuddwydio;
Nes codet trwy dy gwsg i ddod,
Yn ol at Alun eto.

Ond i fy nghadair wellt yr af,
A cheisiaf huno, Menna;
Ac mewn breuddwydion cyn bo hir
Mi ddeuaf innau yna.
Yn awr ‘rwy ‘n cau fy amrant swrth
Wrth gychwyn i dy wyddfod;
Breuddwydia dithau, felly hed,
A thyred i’m cyfarfod.

XVIII.

Mi dreuliais wythnos gyfan,
A Menna bach i ffwrdd;
A’r ty yn llanast tryblith,
A’r llestri hyd y bwrdd.
‘R oedd gennyf was a hogyn
Yn cynhauafa mawn:
Ac eisiau pobi bara
A daeth yn fuan iawn.

‘R oedd godro un o’r gwartheg
Yn gasach na phob peth,
Oherwydd Menna ‘n unig
Gai gydied yn ei theth.
A throi yn hesp wnaeth pedair
O’r gwartheg mwyaf blith;
A llaeth y lleill a surodd,
A’r byd a drodd o chwith.

Ac am y gegin, druan,
‘R oedd hi heb drefn na llun:
Y plant ddechreuent grio,
A chriais innau f’ hun.
Mi flinais ar fy einioes,
Aeth bywyd imi ‘n bwn:
A gyrrais efo ‘r hogyn
I Menna ‘r llythyr hwn:-

XIX.
ALAW,–Bugail Aberdyfi.

Mi geisiaf eto ganu can,
I’th gael di ‘n ol, fy ngeneth lan, I’r gadair siglo ger y tan,
Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a’th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw ‘i fam,
A’i galon bron a thorri;
Mae ‘r ddau oen llawaeth yn y llwyn, A’r plant yn chware efo ‘r wyn;
O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion mwliog du
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:
O! agor eto ddrws y ty,
Ar fynydd Aberdyfi.
O! na chaet glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu ‘r nos,
A’i ruddiau bychain fel y rhos,
Yn wylo am ei fami;
Gormesaist lawer arnaf, Men,
Gormesais innau–dyna ben:
O tyrd yn ol, fy ngeneth wen,
I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu can
I’th gael di ‘n ol, fy ngeneth lan, I eistedd eto ger y tan,
Ar fynydd Aberdyfi;
‘Rwy ‘n cofio’th lais yn canu ‘n iach – Ond ‘fedri di, na neb o’th ach,
Ddiystyrru gweddi plentyn bach
Sydd eisieu gweld ei fami.
Rhyw chware plant oedd d’weyd ffarwel, Cyd-faddeu wnawn, a dyna ‘r fel,
Tyrd tithau ‘n ol, fy ngeneth ddel, I fynydd Aberdyfi.

XX.

Fe ddaeth yr hogyn adref,
A rhoddodd sicrhad,
Fod Menna ‘n mynd ‘i aros
Yn nhy ei mam a’i thad.
Os oeddem wedi priodi,
Yn bendant dwedai hi
Nad oedd dim modd cymodi
A dyn o’m tymer i.

Fod i’r holl fechgyn fyned
I’w magu ganddi hi:
Ac i’r genethod ddyfod
O dan fy ngofal i.
‘R oedd hi yn ymwahanu,
Ac felly ‘n canu ‘n iach;
Ond hoffai roddi cusan
Ar wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychwelodd
I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
O eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael
Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
Fe ‘n hailgymododd ni.

XXI.

Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni ‘r gauaf
Ni theimlem wres yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
Ni byddai ‘r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
‘N gwneyd llawer iawn o les.

XXII.

Awel groes ar fy oes godai ‘n gryf wedyn, Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn: Rhoddai mhlant ddwylaw’n mhleth, ogylch fy ngwely, Minnau ‘n fud welwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod, A daeth ofn, afon ddofn, ddu i’m cyfarfod; Ond ‘roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua, A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.

O! os bu ias y bedd, allan o’r briddell, Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell;
Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno, Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo.
Fel y graig safai ‘m gwraig anwyl yn eon, Ac i’r nef, gweddi gref yrrodd o’i chalon: Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua, A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna.

XXIII.

Ar ol fy hir gystudd,
‘Rwy ‘n cofio ‘r boreuddydd
Y’m cariwyd mewn cader dros riniog fy nor: Ac ar fy ngwyn dalcen
Disgynnodd yr heulwen,
Ac awel o’r mynydd ac awel o’r mor. Ar ol imi nychu
Yn gaeth ar fy ngwely
Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen; Fy nghalon lawenodd
Wrth weld ar y weirglodd
Y gaseg a’r ebol, y ddafad a’r oen.

Trwy wenlas ffurfafen
Fe wenai yr heulwen,
Ac mi a’i gwynebais, ac yfais y gwynt; A’r adar a ddeuent
I’m hymyl, a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt. Fy ngeneth ieuengaf
Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw; A daeth fy nghi gwirion,
Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw.

XXIV.

Ond O! mae llawer blynedd,
Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau ‘r haul;
‘Rol gadael gwely gwaeledd.
A llawer tywydd garw
Sydd er yr amser hwnnw,
Mae ‘m plant yn wragedd ac yn wyr,
A Menna wedi marw.

Claddasom fachgen bychan,
Ac yna faban gwiwlan,
Ond chododd Menna byth mo’i phen
‘Rol ini gladdu ‘r baban.
‘Rwy ‘n cofio ‘r Sul y Blodau
Yr aeth i weld eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
Mai mynd i’r bedd ‘roedd hithau.

Penliniodd dan yr ywen,
A phlannodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri ‘r coed,
A brig o droed y glomen.
Y blodau gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gywo ‘r oedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a’i gwylient.

Ac er pan gladdwyd Menna,
Un fynwent yw ‘r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
Yw ‘r unig drysor fedda.
Y fodrwy hon a gadwaf,
Y fodrwy hon a garaf,
A dyma destun olaf cerdd,
Gwreichionen awen, olaf.

XXV.

Mae Menna ‘n y fynwent yn isel ei phen, A thi ydyw ‘r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd rwy ‘m cofio dy roi, Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi – Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw, ‘Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw: Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy ‘r adduned yn oer ac yn fud.

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen, ‘R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen, Y clychau yn canu, a’r byd fel yn ffol, – Ond cnul oedd yn canu pan ges i di ‘n ol. Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi; O! fodrwy ‘r adduned, nes gwywo ‘r llaw hon, Fe’th gadwaf di ‘n loew, fe’th gadwaf di’n gron.

XXVI.

Aros mae ‘r mynyddau mawr,